Jessica ​John

Ers erioed rwyf wedi bod yn berson chwilfrydig ac ym mhen ​amser datblygodd hyn yn obsesiwn gyda Threftadaeth ​Ddiwylliannol, yn arbennig treftadaeth ddiwylliannol Gogledd ​Cymru. Yn ffodus i mi, rhoddodd fy ngyrfa dros y degawd ​diwethaf le i mi drochi yn fy obsesiwn a rŵan rwy’n barod i ​rannu fy arbenigedd gyda phrosiectau, bach a mawr, sydd am ​adrodd straeon unigryw o bwy ydym ni ag o le y deuwn ni.


Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n byw a gweithio yn fy iaith ​frodorol. Mae hyn yn fraint, ac yn fantais gan fod y rhan ​fwyaf o'n ffynonellau hanesyddol yn y Gymraeg, ac mae ​gan yr ardal yma o Gymru niferoedd uchel o siaradwyr ​Cymraeg.



Shape design element

Fy nghynfas

Eryri

Mae gan Eryri dros 800² milltir o dirwedd ​hanesyddol gyfoethog. Gellir darllen y ​tirwedd fel palimpsest o filoedd o ​flynyddoedd o feddiannaeth ddynol. ​Gadawodd bob cenhedlaeth eu marc, yn ​fwriadol neu’n anfwriadol, trwy ​dreftadaeth ddiriaethol neu anniriaethol. ​Mae dynoliaeth wedi gadael eu straeon i ​ni, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, a’m ​swydd i yw gwrando a rhannu’r straeon ​yna. A pwy a ŵyr, heb os cawn ddysgu ​ambell beth?



Beth y gallaf gynnig?


Tirweddau Treftadaeth ​Ddiwylliannol

Arddangosfeydd a ​Chasgliadau.

  • Prosiectau ymchwil cymunedol ​ar dreftadaeth ddiriaethol ac ​anniriaethol.
  • Dehongli yn y tirwedd gan ​ddefnyddio dehongli ​traddodiadol a dehongli digidol ​fel codau QR neu deithiau ​rhithiol (VR).
  • Dod a haneswyr, artistiaid, ​archeolegwyr, gwneuthurwyr ​ffilm a’r gymuned ynghyd i ​adrodd stori yn ei chyfanrwydd
  • Cyfoethogi’r Cofnod ​Amgylchedd Hanesyddol i ​genedlaethau’r dyfodol.
  • Archifo cynnwys traddodiadol a ​digidol yn gyfrifol.
  • Gwerthuso a rhesymoli ​casgliadau.
  • Dylunio arddangosfeydd a ​chynnwys gyda ac ar gyfer eich ​cynulleidfa.
  • Arddull aml gyfryngau ​(Multimedia) wrth greu ​arddangosfeydd
  • Cynnwys dwyieithog.
  • Effaith dehongli byw - gallaf ​gynnig hyfforddiant blaen tŷ i ​dywyswyr amgueddfeydd a ​safleoedd treftadaeth.

Enghreifftiau o’M gwaith

Ymchwil Cymunedol​

Gwlân, Gweu a Gwe; Hanes y diwydiant g​wlân yn Nolgellau.


Gweithdai addysg, arolygon archeolegol, ​mapio dwfn a mwy....

2022 - cyfredol

Ff​ermydd coll

Prosiect mapio, ymchwil a dehongli m​urddunnod ar draws tirwedd Ardudwy.


Ymgysylltu cymunedol, gweithdai gwirfoddoli,​ gweithdai addysg.​

2020 - 2024

Enwau lleoedd

Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

Prosiect Lleisiau’r Carneddau; enwau ​lleoedd a hanes llafar.

Cofnodi a dathlu enwau lleoedd ​Cymraeg.

2020-2024

Enghraifft o waith Amgueddfa a Safle ​Treftadaeth


Yr Ysgwrn, Cartref y bardd Hedd Wyn

Datblygu safle o bwys cenedlaethol i fod yn amgueddfa achrededig a safle ​treftadaeth. Daeth 11 gwobr treftadaeth o ganlyniad i’r gwaith datblygu gan ​gynnwys trip i Baris am E​uropa Nostra.

Gwaith yr amgueddfa; asesu, gwerthuso, catalogio, archifo, achrediad, gofal a ​chadwraeth casgliadau, marchnata, ymgysylltu cymunedol, rheoli prosiectau, ​hyfforddiant croeso cynnes a thywysydd (gallaf hefyd weithio peiriant coffi ​barista – cappuccino?)​

2015 - 2020

Cysylltwch


Os ydych wrthi yn datblygu prosiect ac angen help llaw creu ​campwaith treftadaeth gyda’r gymuned yn ganolog i’r prosiect, ​neu os ydych yng nghanol prosiect ac angen arweiniad i gau pen ​tennyn - cysylltwch.


Neu os hoffech chi sgwrs am fentro prosiect ymchwil neu os ​hoffech barablu trwy brosiect hanes llafar, cysylltwch am sgwrs.


Ffôn​

07787522659

Eb​ost

jessicajohn@tylwyth.cymru